Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 9 Tachwedd 2016

Amser y cyfarfod: 13.30
 


30(v4)  

<AI1>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

(45 munud)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

(45 munud)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

 

</AI2>

<AI3>

Cwestiynau Brys

 

 

Cwestiwn Brys 1

I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:

Neil McEvoy (Canol De Cymru): Yn sgil y tebygolrwydd buan y caiff Bashir Naderi ei orfodi i adael y DU ddydd Mawrth nesaf, a wnaiff y Gweinidog ystyried gwneud sylwadau i rwystro hyn rhag digwydd? 

 

Cwestiwn Brys 2

I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros lechyd, Llesiant a Chwaraeon:

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch adroddiad yr Ombwdsmon, a ganfu 'methiant systemig' mewn gofal claf canser yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan?

 

</AI3>

<AI4>

3       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI4>

<AI5>

4       Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ymchwiliad y Pwyllgor i ddyfodol polisïau gwledig ac amaethyddol yng Nghymru

(30 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

(60 munud)

 

NDM6122

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Huw Irranca–Davies (Ogwr)
Vikki Howells (Cwm Cynon)
Sian Gwenllian (Arfon)
David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu'r Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016

2. Yn cymeradwyo gwaith y sefydliadau cadwraeth ac ymchwil sydd wedi cynhyrchu'r adroddiad

3. Yn pryderu am y canfyddiadau sy'n nodi:

a) bod 56 y cant o'r rhywogaethau a astudiwyd wedi dirywio ledled y DU dros y 50 mlynedd diwethaf

b) bod un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru bron â darfod

c) bod 57 y cant o blanhigion gwyllt, 60 y cant o löynnod byw a 40 y cant o adar yn dirywio

d) bod dros draean o rywogaethau fertebrat a phlanhigion morol (sy'n hysbys i ni) wedi prinhau, gyda thri chwarter o rywogaethau infertebrat morol yn dirywio ledled y DU.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i sicrhau bod gwyrdroi'r dirywiad yn ein bioamrywiaeth yn ganolog i bolisïau rheoli cynaliadwy.

'Adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016'

 

</AI6>

<AI7>

6       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

(60 munud)

 

NDM6132  Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi, yn ôl Arolwg Cartrefi 2014 y Lleng Brydeinig Frenhinol, fod 385,000 o gyn-aelodau ac aelodau presennol o gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru.

2. Yn cydnabod y dylai'r rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a'u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch.

3. Yn credu y dylai Cymru fod ar flaen y gad wrth weithredu Cyfamod y Lluoedd Arfog, sydd wedi'i fwriadu i wneud iawn am yr anfanteision y gall cymuned y lluoedd arfog eu hwynebu o gymharu â dinasyddion eraill, ac i gydnabod aberthion y gymuned honno.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) nodi bod Llywodraeth yr Alban wedi creu comisiynydd ar gyfer cyn-filwyr, i hyrwyddo anghenion cymuned y lluoedd arfog, ac yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i greu comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru ar gyfer cyn-filwyr a chymuned ehangach y lluoedd arfog, gyda'r nod cyffredinol o wella'r canlyniadau i gyn-filwyr yn ogystal ag aelodau o'r lluoedd arfog sy'n dal i wasanaethu; a

b) cyflwyno asesiad o anghenion cyn-filwyr a fydd yn sail ar gyfer darparu gwasanaethau i sicrhau bod gan gyn-aelodau o'r lluoedd arfog yr hawl i gael y gefnogaeth y maent yn ei haeddu.

'Arolwg Cartrefi 2014 y Lleng Brydeinig Frenhinol'

'Cyfamod y Lluoedd Arfog'

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):

Dileu pwynt 4.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i ffyrdd o hybu a hyrwyddo anghenion cyn-filwyr, a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt, gan edrych ar arfer gorau mewn mannau eraill.

Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi gwaith sefydliadau fel '65 Degrees North', sy'n helpu i adsefydlu cyn-filwyr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod pobl sydd ar fin gadael y lluoedd arfog yn ymwybodol o sefydliadau o'r fath.

Gwelliant 4. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd mewn partneriaeth â chymuned y lluoedd arfog, gan gynnwys:

a) gwaith amhrisiadwy Grŵp Arbenigwyr y Lluoedd Arfog;

b) datblygu'r llyfryn Croeso i Gymru ar gyfer personél presennol y lluoedd arfog a'u teuluoedd ynghylch cael eu hadleoli i Gymru;

c) gwell cymorth ar gyfer y lluoedd arfog a'u teuluoedd, gan gynnwys datblygu Llwybr Tai ar gyfer cyn bersonél y lluoedd arfog a'u teuluoedd;

d) Llwybr Cyflogadwyedd y Lluoedd Arfog sy'n galluogi pobl ifanc i feithrin sgiliau ac ennyn hyder, ennill cymwysterau a sicrhau cyflogaeth;

e) y gwaith sy'n parhau i ddatblygu'r ddarpariaeth iechyd a lles ar gyfer cyn bersonél y lluoedd arfog gan gynnwys y swm o £585,000 a roddir ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr bob blwyddyn, nofio am ddim a'r ffaith y bydd y pensiwn anabledd rhyfel yn cael ei ddiystyru yn llwyr o fis Ebrill 2017.

'Croeso i Gymru'

 

</AI7>

<AI8>

7       Dadl Plaid Cymru

(60 munud)

 

NDM6134 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

2. Yn gresynu bod canran y dysgwyr saith oed sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg heb newid yn y blynyddoedd diwethaf.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob sector addysg fel rhan ganolog o'i strategaeth i gyrraedd y targed hwn.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod cynyddu nifer y dysgwyr sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod, a bydd yn parhau i fod, yn ganolog i bolisi addysg a sgiliau Llywodraeth Cymru.
 
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda busnesau i wella'r ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu a'i defnyddio yn y gweithle.

 

</AI8>

<AI9>

8       Cyfnod pleidleisio

 

</AI9>

<AI10>

9       GOHIRIWYD TAN 16 TACHWEDD - Dadl Fer

(30 munud)

 

NDM6133 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Colli'r ddarpariaeth ymchwil y galon yn Ysgol Feddygol Caerdydd

 

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 15 Tachwedd 2016

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>